23/02/2026
🇬🇧 Delyth's partner Macauley was killed in an accident at work. Macauley was already on the organ donation register, which made the family's decision much easier.
Their decision to fulfil Macauley's wishes meant that his organs went on to save four lives.
“I'm extremely proud of him... just massive, massive pride," said Delyth.
"He’d actually signed it twice over the years, which made our decision a little bit easier.
"It was a bit of a surprise because writing and computers weren’t his strong point.
"For him to have been able to find the register and sign it, just shows how easy it is. I’m glad he did it."
Delyth and rest of Macauley’s family were full of nothing but praise for the Specialist Nurses who took care of them following their decision to donate his organs. In fact, its now a career that Delyth’s teenage daughter is hoping to pursue.
Confirming your decision on the NHS Organ Donor Register like Macauley did, takes just 2 minutes and you could end up saving many more lives.
🏴Cafodd Macauley, partner Delyth, ei ladd mewn damwain yn y gwaith. Roedd Macauley eisoes ar y gofrestr rhoi organau, felly roedd penderfyniad y teulu’n llawer haws. Roedd eu penderfyniad i gyflawni dymuniadau Macauley yn golygu bod ei organau wedi mynd ymlaen i achub pedwar bywyd.
“Rwy’n hynod falch ohono... dim ond balchder enfawr, enfawr,” meddai Delyth.
"Roedd wedi'i llofnodi ddwywaith dros y blynyddoedd, felly roedd ein penderfyniad ychydig yn haws.
"Tipyn o syndod oedd hyn oherwydd nid ysgrifennu a chyfrifiaduron oedd ei gryfderau.
"Mae’r ffaith ei fod wedi gallu dod o hyd i'r gofrestr a'i llofnodi yn dangos pa mor hawdd yw gwneud. Rwy'n falch ei fod wedi gwneud."
Roedd Delyth a gweddill teulu Macauley yn llawn canmoliaeth i’r Nyrsys Arbenigol a fu’n gofalu amdanynt yn dilyn eu penderfyniad i roi ei organau. Yn wir, mae merch Delyth, sydd yn ei harddegau, yn gobeithio dilyn hyn fel gyrfa.
Dau funud yn unig y mae’n ei gymryd i gadarnhau eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG fel y gwnaeth Macauley, a gallech chi achub llawer mwy o fywydau.