Mae Gwasanaeth Cymorth Lles Caerdydd yn ceisio rhoi hwb i iechyd a lles cyfranogwyr drwy eu helpu i fod yn fwy actif a chymryd rhan yn eu cymuned trwy ddarparu mentora un i un tymor byr gan ein mentoriaid Iechyd a Lles ein hunain. Rydym yn helpu cyfranogwyr i gael gafael ar gyngor, gweithgareddau, digwyddiadau, cyfleoedd hyfforddi ac unrhyw gymorth arall i helpu i fodloni eu hanghenion lles. Gall
y gweithgareddau fod yn unrhyw beth sy’n apelio ac o diddordeb i'r person, gan eu helpu i wneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Gallwn hefyd eu helpu i gael mynediad at wasanaethau eraill y gallai fod eu hangen arnynt trwy atgyfeirio a chyfeirio yn ôl yr angen. Ar ôl i Fentor Iechyd a Lles gael ei neilltuo, mae cyfnod o gefnogaeth am hyd at 13 wythnos ar gael i'r sawl sy'n cymryd rhan a'u mentor i weithio ar yr hyn sydd ei angen i wella eu lles, fel yr amlinellir yn eu Cynllun Gweithredu Personol eu hunain. Mae'r Tîm Gwirfoddoli Cymunedol yn gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Cymorth Lles. Rydym yn cynnal gweithgareddau hygyrch am ddim mewn hybiau cymunedol ledled y ddinas, ac mae ein holl weithgareddau'n ceisio gwella lles meddyliol a chorfforol pobl. Mae gennym lawer o weithgareddau gan gynnwys Tai Chi, grwpiau cerdded, grwpiau cymdeithasol, grwpiau creadigol, grwpiau cymorth cyfoedion, digwyddiadau amrywiol, a gweithgareddau untro. Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i ddechrau, helpu i redeg, neu gefnogi ein sesiynau, mae'n gyfle i bobl wella eu lles eu hunain a rhoi yn ôl i'r gymuned.
___________________________________________________________________________________________________________________________
The Cardiff Wellbeing Support Service seeks to boost a participant's health and wellbeing by helping them become more active and engaged in their community by providing short term, one-to-one mentoring by our own Health and Wellbeing Mentors. We support people to access advice, activities, events, training opportunities and any other support to help meet their wellbeing needs. The activities can be whatever appeals and interests the person, helping them to make new friends along the way. We can also help them access other services they may need by referring and signposting as needed. Once a Health and Wellbeing Mentor has been assigned, a period of support for up to 13 weeks is available for the person and their mentor to work on what is needed to improve their wellbeing, as outlined in their own personal Action Plan. The Community Volunteering Team work alongside the Wellbeing Support Service. We put on free accessible activities in community hubs across the city, and all our activities look to improve people’s mental and physical wellbeing. We have lots of activities including Tai Chi, walking groups, social groups, creative groups, peer support groups, various events, and one-off activities. We are always looking for volunteers to start, help run, or support our sessions, it’s a chance for people to enhance their own wellbeing and give back to the community.