
21/09/2025
Braint ac anrhydedd oedd mynychu seremoni ‘The Good Funeral Awards 2025’ - ar ôl cael ein enwebu a’n dewis yn un o chwech yn rownd derfynol ‘Ymgymerwr Angladdau'r Flwyddyn’, drwy Brydain.
Rydym yn falch iawn o wybod fod yr enwebiad wedi ei wneud gan deuluoedd yr ydym wedi cael y fraint o'u cefnogi. Rydym hefyd yn ddiolchgar o gael ein cydnabod ochr yn ochr â chynifer o gwmnïau angladdau proffesiynol eraill.
Na, wnaethon ni ddim ennill, ond roedd bod yn y rownd derfynol yn anrhydedd fawr - ac mae ein diolch i'r teuluoedd sydd wedi ein cefnogi ac ymddiried ynom ni ar hyd y blynyddoedd.
Diolch o waelod ein calon.
We are incredibly proud and honoured to have attended The Good Funeral Awards 2025 - after being nominated and chosen as one of six finalist throughout Britain in the Funeral Director of the Year category.
It’s special as the nomination came from families we have had the privilege of supporting.
We are grateful to be recognised alongside so many other professional funeral businesses.
No, we didn’t win, but being one of the finalists was the greatest honour – and we owe it all to the families who have supported and trusted us over the years.
Thank you, from the bottom of our hearts.