10/03/2025
Mae ambell un yn gofyn i mi beth yw’r gwahaniaeth rhwng Seiciatrydd a Seicolegydd Clinigol. Yn gryno, mae Seiciatrydd wedi cymhwyso fel meddyg yn y lle cyntaf ac wedyn arbenigo ym maes afiechyd meddwl. Gan eu bod yn feddygon mae’r hawl ganddynt i roi presgriptiwn meddyginiaeth yn ogystal â thriniaethau therapi siarad. Mae Seicolegwyr Clinigol wedi graddio mewn Seicoleg yn y lle cyntaf, ac wedyn (fel arfer, wedi gweithio fel Seicolegwyr Cynorthwyol am gyfnod) yn dilyn cwrs cydnabyddedig academaidd, ymchwil, a chlinigol i gymhwyso fel Doethur mewn Seicoleg Clinigol - ac wedyn arbenigo mewn maes penodol.
O ran fy hun nes i ymddiddori ym maes rhiantu ac iechyd meddwl rhieni - ond wedyn arbenigo am rai blynyddoedd mewn asesiadau Llys Teulu cyn symud nol i ganolbwyntio ar weithio’n therapiwtig gydag unigolion o bob oed.