Ysbyty'r Tywysog Siarl - Cymraeg

Ysbyty'r Tywysog Siarl - Cymraeg Mae Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ysbyty cyffredinol dosbarth ym Merthyr Tudful.

Diolch i Dafyd Roberts, 18 oed o Flaengarw, oedd wedi codi £130 trwy’r cyfnod clo trwy baentio matiau diod a’u gwerthu i...
14/04/2022

Diolch i Dafyd Roberts, 18 oed o Flaengarw, oedd wedi codi £130 trwy’r cyfnod clo trwy baentio matiau diod a’u gwerthu i bobl yn y gymuned. Roedd Dafyd, sy’n rhedeg busnes bach , wedi prynu deunyddiau crefftau gan ddefnyddio’r a***n a gododd e, cyn eu rhoi i Ward y Plant yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.

27/05/2021

HYSBYSIAD PWYSIG

Yn ystod y pythefnos nesaf, byddwn ni’n uno tudalennau ein hysbytai cymunedol â thudalennau’r prif ysbyty yn yr ardal honno er mwyn ei gwneud hi’n haws cael yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Yn hytrach na dilyn sawl tudalen/cyfrif Facebook, dim ond un dudalen y bydd angen i chi ei dilyn ar gyfer eich ardal chi.

Fydd dim tudalennau ar gyfer yr ysbytai cymunedol bellach, h.y. Ysbyty Cwm Cynon, Ysbyty Cwm Rhondda, Ysbyty Dewi Sant, Ysbyty George Thomas, Ysbyty Glanrhyd, Ysbyty Maesteg a Pharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie. Bydd yr wybodaeth rydyn ni’n ei phostio ar hyn o bryd yn dal i gael ei phostio, ond yn hytrach, bydd yn cael ei phostio ar un dudalen yn lle tair/pedair tudalen Facebook. O’r blaen, os oeddech chi’n dilyn sawl tudalen, byddech chi’n cael yr un wybodaeth sawl tro.

Os ydych chi’n ‘hoffi’ neu’n ‘dilyn’ tudalen un o’n lleoliadau cymunedol, cliciwch ‘hoffi’ neu ‘dilyn’ ar dudalen yr ysbyty sy’n berthnasol i chi a/neu ar brif dudalen BIP CTM.

Newidiadau i’r tudalennau:
• Safle 1 – O hyn ymlaen, bydd tudalen Ysbyty’r Tywysog Siarl (sy’n gwasanaethu ardal Merthyr Tudful a Chynon) yn rhoi’r diweddaraf i chi am Ysbyty Cwm Cynon a Pharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie hefyd (felly cliciwch ‘hoffi’/‘dilyn’ ar dudalen Ysbyty’r Tywysog Siarl)

• Safle 2 – O hyn ymlaen, bydd tudalen Ysbyty Tywysoges Cymru (sy’n gwasanaethu ardal Pen-y-bont ar Ogwr) yn rhoi’r diweddaraf i chi am Ysbyty Glanrhyd ac Ysbyty Maesteg hefyd (felly cliciwch ‘hoffi’/‘dilyn’ ar dudalen Ysbyty Tywysoges Cymru)

• Safle 3 – O hyn ymlaen, bydd tudalen Ysbyty Brenhinol Morgannwg (sy’n gwasanaethu ardal Rhondda Cynon Taf) yn rhoi’r diweddaraf i chi am Ysbyty George Thomas, Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Dewi Sant hefyd (felly cliciwch ‘hoffi’/‘dilyn’ ar dudalen Ysbyty Brenhinol Morgannwg)

Yn ogystal â hynny, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg brif dudalen gorfforaethol, lle cewch chi’r holl wybodaeth ddiweddaraf am iechyd ledled Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

Gobeithio y bydd ein hadolygiad o’r ffordd rydyn ni’n rhoi gwybodaeth i chi yn ogystal â’r gwelliannau hyn yn ddefnyddiol i chi. Byddwn ni’n parhau i fonitro ein gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr ein bod ni’n ystyried eich adborth.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus i’n gwasanaethau iechyd ledled Cwm Taf Morgannwg.

Newidiadau i brofion COVID-19 ym Merthyr TudfulBydd yr uned brofi symudol yn Nhrelewis yn cau ddiwedd y dydd heddiw (dyd...
11/02/2021

Newidiadau i brofion COVID-19 ym Merthyr Tudful

Bydd yr uned brofi symudol yn Nhrelewis yn cau ddiwedd y dydd heddiw (dydd Iau 11 Chwefror). Bydd yr uned yn symud i faes parcio Coleg Merthyr Tudful ac yn agor bob dydd o ddydd Gwener 12 Chwefror ymlaen rhwng 9am a 5pm.

Rhaid trefnu prawf ymlaen llaw drwy ffonio 119 neu drwy fynd i https://gov.wales/getting-tested-coronavirus-covid-19

Trefnwch brawf os oes UNRHYW un o symptomau COVID-19 gyda chi a helpwch ni i ddiogelu eich cymuned.

Guidance on who is eligible for testing and how to get a test.

Hoffai staff a chleifion Ward 11 ddiolch i Stephen Morris, cefnogwr y GIG, am godi £180 ar gyfer y ward, ac i enillydd y...
25/01/2021

Hoffai staff a chleifion Ward 11 ddiolch i Stephen Morris, cefnogwr y GIG, am godi £180 ar gyfer y ward, ac i enillydd y raffl, Jonny Williams, am roi ei wobr £100 fel rhodd. Yn ogystal, gwnaeth Sarah Davies a’r tîm yn Asda Merthyr Tudful roi £100 i ni eto!

Dywedodd y nyrs staff, Matthew Tovey (yn y lluniau gyda’i gydweithiwr Bethan Chamberlain ar y ward, a gyda Sarah a’r cynorthwyydd gofal iechyd, Cathy Wilkes, yn Asda): “Mae’r pandemig wedi bod yn hynod o anodd i staff a chleifion fel ei gilydd. Mae’n gyfnod emosiynol i bawb, yn enwedig oherwydd bod teuluoedd yn methu ymweld â’u hanwyliaid.

“Gan ddefnyddio’r a***n gafodd ei godi rydyn ni wedi gallu prynu ewyn eillio, raseli o ansawdd da, siampŵ, cyflyrydd gwallt, gel cawod, llyfrau lliwio ymwybyddiaeth ofalgar, cylchgronau gyda chwileiriau, gemau bwrdd, posau, seinydd Bluetooth, dŵr potel a blychau storio.

“Hoffen ni hefyd ddiolch yn fawr i Sarah a’r tîm yn Asda. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich gwaith caled a’ch ymroddiad, fel pobl sydd hefyd yn gweithio yn y rheng flaen. Dydych chi ddim yn cael y gwerthfawrogiad rydych chi’n ei haeddu.

“Mae hyn wedi codi hwyliau staff Ward 11 mewn cyfnod pan oedd angen gwneud hynny. Maen nhw wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol y pandemig, a bydd hyn yn ein galluogi i roi’r gofal gorau posib i’n cleifion. Mae Stephen bellach wedi codi bron i £45,000 i’r GIG ac i elusennau lleol. Mae pobl Merthyr wir yn dod at ei gilydd mewn argyfwng.”

Mae’r tywydd yn mynd i barhau i fod yn rhewllyd yr wythnos hon. Cymerwch ofal rhag llithro a chwympo.Dyma’n canllaw i ga...
25/01/2021

Mae’r tywydd yn mynd i barhau i fod yn rhewllyd yr wythnos hon. Cymerwch ofal rhag llithro a chwympo.

Dyma’n canllaw i gadw’n iach ac yn gynnes, a delio â phroblemau meddygol brys dros y gaeaf hwn.
Helpwch ni i’ch helpu chi

Keep Well, Keep Warm this Winter here a few tips and contacts that can help you through this winter

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn i Gymru rhwng 12am nos Fawrth 12pm ddydd Iau. Bydd perygl o lifogydd a ...
18/01/2021

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn i Gymru rhwng 12am nos Fawrth 12pm ddydd Iau. Bydd perygl o lifogydd a phroblemau teithio, felly cadwch yn ddiogel. Arhoswch gartref gymaint â phosib a helpwch i leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau drwy beidio â theithio oni bai fod hyn yn hanfodol. Diolch.

Diogelwch eich anwyliaid a gohiriwch eich parti   hyd nes ei bod hi’n fwy diogel.Mae dros 600 o achosion posib, achosion...
31/12/2020

Diogelwch eich anwyliaid a gohiriwch eich parti hyd nes ei bod hi’n fwy diogel.

Mae dros 600 o achosion posib, achosion wedi eu cadarnhau neu gleifion sy’n gwella o’r Coronafeirws yn ein hysbytai, y nifer uchaf ers y brig cyntaf yn y nifer o achosion. Arhoswch gartref i achub bywydau 🙏

Helpwch ni i’ch helpu chi

Mae angen eich cymorth CHI arnon ni 🙏Os oes perthynas gyda chi sy’n barod i gael ei ryddhau o’r ysbyty yn ddiogel, helpw...
30/12/2020

Mae angen eich cymorth CHI arnon ni 🙏

Os oes perthynas gyda chi sy’n barod i gael ei ryddhau o’r ysbyty yn ddiogel, helpwch nhw i fynd gartref yn gyflym. Gallan nhw barhau i wella yng nghysur eu cartref a gwneud mwy le ar ein wardiau.

Helpwch ni i’ch helpu chi.

Official Homepage of Cwm Taf Morgannwg University Health Board. Content includes Contact Details, Hospital Information, Visiting Times, Services A-Z and Latest News.

Peidiwch â gwahodd y Coronafeirws i’ch cartref ar gyfer Calan Gaeaf eleni. Bellach mae dros 600 o achosion posib, achosi...
30/12/2020

Peidiwch â gwahodd y Coronafeirws i’ch cartref ar gyfer Calan Gaeaf eleni. Bellach mae dros 600 o achosion posib, achosion wedi eu cadarnhau neu gleifion sy’n gwella o’r Coronafeirws yn ysbytai CTM. Chwaraewch eich rhan i atal y feirws rhag lledaenu.

Allwch chi ddim cael partïon yn eich tŷ. er mwyn diogelu eich teulu.

Address

Heol Gurnos
Merthyr Tudful
CF479DT

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Ysbyty'r Tywysog Siarl - Cymraeg posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share

Share on Facebook Share on Twitter Share on LinkedIn
Share on Pinterest Share on Reddit Share via Email
Share on WhatsApp Share on Instagram Share on Telegram

Category