04/02/2021
Newidiadau i ganolfannau profi symudol am COVID-19
Bydd y canolfannau profi symudol am COVID-19 ym Maesteg a Llanharan yn cau ddiwedd heddiw, Dydd Iau 4 Chwefror.
Bydd 2 ganolfan newydd yn agor fory. Bydd un ym maes parcio Pwll Nofio Halo y Pîl ym Mynydd Cynffig, a bydd y llall yng Nghanolfan Chwaraeon y Rhondda Fach yn Tylorstown.
Bydd y canolfannau gyrru trwodd ar agor rhwng 9am a 4pm bob dydd. Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn trwy ffonio 119 neu ar-lein: https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19
Mae apwyntiadau cerdded trwodd mewn canolfannau sydd ddim yn symudol ar gael rhwng 8am ac 8pm bob dydd ym Mhrofiad y Bathdy brenhinol yn Llantrisant ac ym maes parcio’r Neuadd Bowls ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Os oes unrhyw un o symptomau COVID-19 gyda chi, trefnwch brawf cyn gynted â phosib. Am restr lawn o’n canolfannau profi, ewch i’n gwefan: https://cwmtafmorgannwg.wales/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/covid-19-testing-options/
Official Homepage of Cwm Taf Morgannwg University Health Board. Content includes Contact Details, Hospital Information, Visiting Times, Services A-Z and Latest News.