04/02/2026
Oeddech chi'n gwybod nad oes angen i chi ymweld ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys nac aros am apwyntiad gyda meddyg teulu ar gyfer llawer o bryderon iechyd cyffredin menywod?
Gall eich fferyllfa leol eich cefnogi'n gyflym, yn ddiogel ac yn gyfrinachol gyda:
🔹Heintiau'r llwybr wrinol (UTIs)
🔹Llindag y fagina
🔹Atal cenhedlu brys (pilsen bore wedyn) – am ddim i unrhyw un 13 oed a hŷn
Mae fferyllwyr yn arbenigwyr clinigol hyfforddedig a all gynnig cyngor, triniaeth a meddyginiaeth. Os oes angen help arnoch gydag unrhyw un o'r pryderon hyn, ewch i'ch fferyllfa agosaf i gael y gofal sydd ei angen arnoch yn gyflym ac yn ddiogel.
👉Helpwch ni i'ch helpu chi. Dysgwch fwy am yr hyn y gall eich fferyllfa eich helpu ag ef: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/