29/07/2025
Please scroll down for Welsh version
The Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Regional (VAWDASV) Team have secured three new dates for the delivery of VAWDASV Bystander Intervention Training in 2025/26.
The Bystander Training, titled, “Lead the Change”, is part of Welsh Government Strategy to tackle Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence.
The training is designed to empower professionals to challenge misogynistic attitudes in public spaces in a safe manner to encourage change and to raise awareness of Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence, particularly among boys and young men.
The training will be interactive and encourage open discussions.
We propose that the training is aimed at those who work in Social Care, Education and Youth Justice Services, with emphasis on those who work with boys and young men, or who have the opportunity for engagement, such as Education Liaison Officers and Social Workers.
Furthermore, although all relevant professionals are welcome to attend the training, we would particularly like to see more male professionals sign up to the training, as they have been underrepresented in previous cohorts.
The dates, venues and times for the training are as follows:
Thursday 25th September, 9.30 am – 4.30 pm (times may be subject to change) – The Guildhall, Wrexham, LL11 1AY (for professionals from Wrexham and Flintshire Local Authorities)
Thursday 20th November, 9.30 am – 4.30 pm (times may be subject to change) – Bryn Cefni Business Centre, Llangefni, LL77 7XA (for professionals from Anglesey and Gwynedd Local Authorities)
Thursday 19th February, 9.30 am – 4.30 pm (times may be subject to change) – Coed Pella, Conway Road, Colwyn Bay, LL29 7AZ (for professionals from Conwy and Denbighshire Local Authorities)
All those who are interested in attending the training should contact me on Maria.Pritchard@flintshire.gov.uk
Further information for attendees will follow in due course.
****************************************************************************************************************
Mae Tîm Rhanbarthol Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) wedi neilltuo tri dyddiad newydd ar gyfer cyflwyno Hyfforddiant Ymyrraeth i Wylwyr yn erbyn Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2025/26.
Mae'r Hyfforddiant i Wylwyr, o'r enw "Arwain y Newid", yn rhan o Strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Mae'r hyfforddiant wedi'i gynllunio i rymuso gweithwyr proffesiynol i herio agweddau at gam-drin menywod mewn mannau cyhoeddus mewn modd diogel er mwyn annog newid a chodi ymwybyddiaeth o Drais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, yn enwedig ymhlith bechgyn a dynion ifanc.
Bydd yr hyfforddiant yn rhyngweithiol ac yn annog trafodaethau agored.
Rydym yn cynnig bod yr hyfforddiant yn cael ei anelu at y rhai sy'n gweithio o fewn Gofal Cymdeithasol, Addysg a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, gyda phwyslais ar y rhai sy'n gweithio gyda bechgyn a dynion ifanc, neu sydd â'r cyfle i ymgysylltu, fel Swyddogion Cyswllt Addysg a Gweithwyr Cymdeithasol.
Ar ben hynny, er bod croeso i bob weithiwr proffesiynol perthnasol fynychu'r hyfforddiant, byddem yn arbennig o hoffi gweld mwy o weithwyr proffesiynol gwrywaidd yn cofrestru ar gyfer yr hyfforddiant, gan eu bod wedi'u tangynrychioli o fewn carfannau blaenorol.
Mae dyddiadau, lleoliadau a'r amseroedd ar gyfer yr Hyfforddiant fel y ganlyn:
• Dydd Iau 25ain Medi, 9.30 am – 4.30 pm (gall yr amseroedd newid) – Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY (ar gyfer gweithwyr proffesiynol o Awdurdodau Lleol Wrecsam a Sir y Fflint)
• Dydd Iau 20ain Tachwedd, 9.30 am – 4.30 pm (gall yr amseroedd newid) – Canolfan Busnes Bryn Cefni, Llangefni, LL77 7XA (ar gyfer gweithwyr proffesiynol o Awdurdodau Lleol Ynys Môn a Gwynedd)
• Dydd Iau 19eg Chwefror, 9.30 am – 4.30 pm (gall yr amseroedd newid) – Coed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn, LL29 7AZ (ar gyfer gweithwyr proffesiynol o Awdurdodau Lleol Conwy a Sir Ddinbych)
Dylai pawb sydd â diddordeb mewn mynychu'r hyfforddiant gysylltu â mi ar Maria.Pritchard@flintshire.gov.uk
Bydd rhagor o wybodaeth i fynychwyr yn dilyn maes o law.
#