15/09/2025
Mae gweithdai cerddoriaeth wythnosol yn helpu defnyddwyr gwasanaeth i archwilio creadigrwydd, magu hyder, a chysylltu ag eraill.
Wedi’u goruchwylio gan ein gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP), mae’r sesiynau hyn wedi dod yn rhan bwysig o adferiad, gan gynnig lle diogel i roi cynnig ar offerynnau newydd, mynegi emosiynau trwy sain, a lleihau teimladau o unigedd. Mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mae presenoldeb yn parhau i dyfu.
📸Tynnwyd y lluniau hyn yn ein Harddangosfa Gelf a Chodi A***n yng Nghaerfyrddin ar 7 Awst, lle bu defnyddwyr gwasanaeth yn arddangos eu cynnydd cerddorol. Yn y llun hefyd mae ein Gwersylla EIP o fis Medi 2024, lle daeth cerddoriaeth o amgylch y tân â phobl ynghyd trwy greadigrwydd a chân.
Diolch o galon i Aled Rees o Music Factory Wales, sydd wedi bod mor garedig â hwyluso’r gweithdai hyn a chefnogi’r ddau ddigwyddiad, gan ein helpu i ddod â cherddoriaeth i galon adferiad.
Mae cyfoeth o dystiolaeth sy’n dangos y gall cymorth gan dîm EIP wella rhagolygon pobl o adferiad, addysg a chyflogaeth yn sylweddol. Mae ein tîm EIP yn cynnwys gwahanol weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n darparu ystod o opsiynau triniaeth a chymorth.
Dywedodd Tina James, Arweinydd Tîm EIP ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yma i helpu, ac rydym yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr i deilwra cymorth i leihau’r trallod a’r problemau eraill sy’n gysylltiedig â phrofi seicosis am y tro cyntaf. Ein nod yw cael rhywun yn ôl i ddilyn eu gobeithion a’u huchelgeisiau cyn gynted â phosibl.”