Llais Cymru

Llais Cymru Rhaid i leisiau cryf pobl Cymru fod wrth galon system iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol. In English:

Mae LLAIS yn gorff annibynnol, cenedlaethol sy’n rhoi mwy o rym a dylanwad i bobl Cymru lunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn gweithio gyda chyrff iechyd a gofal cymdeithasol, llunwyr polisi ac eraill, fel eu bod yn clywed eich llais ac yn defnyddio eich atborth i helpu i lunio gwasanaethau iechyd a gofal i ddiwallu anghenion pawb.

Diwrnod olaf Sioe Frenhinol Cymru yw hi heddiw 🐄Mae llawer ohonoch eisoes wedi rhannu eich profiadau o ddefnyddio gwasan...
24/07/2025

Diwrnod olaf Sioe Frenhinol Cymru yw hi heddiw 🐄

Mae llawer ohonoch eisoes wedi rhannu eich profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gyda ni'r wythnos hon – diolch! Drwy rannu eich profiadau, rydych yn ein helpu i lunio dyfodol y gwasanaethau hyn yng Nghymru ❤️

Os ydych chi yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw, dewch i ddweud helo wrthym ni yn neuadd Dde Morgannwg, stondin 092-GH 👋

Nid yw nifer o bobl yn gwybod eu hawliau o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Llais yn casglu straeon go iawn i helpu ...
23/07/2025

Nid yw nifer o bobl yn gwybod eu hawliau o ran iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Llais yn casglu straeon go iawn i helpu i lunio gwasanaethau tecach i bawb.

Rhannwch eich profiadau, dweud eich dweud a byddwch yn rhan o’r mudiad dros newid/sgwrs dros newid.

Am ragor o wybodaeth👇
llaiscymru.org/rydymeisiau

Ymunwch â'n cyfarfod bwrdd! 🗣️Oes gennych angerdd am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? Eisiau gwybod ...
22/07/2025

Ymunwch â'n cyfarfod bwrdd! 🗣️

Oes gennych angerdd am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? Eisiau gwybod beth mae Llais yn ei wneud?

Os felly, rydym yn cynnal cyfarfod cyhoeddus a byddem yn hoffi ichi ddod i mewn.

📅Dydd Llun 28 Mehefin 2025
⏰9:15yb - 3:15yp
📌 Ramada Plaza, Wrecsam
🖱️Neu ar-lein

Cofrestrwch eich presenoldeb isod 👇
https://ow.ly/qjqB50Wt55v

Diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru yw hi heddiw 🚜Os ydych chi’n meddwl ymweld yr wythnos hon, dewch i ddweud helo wrthy...
21/07/2025

Diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru yw hi heddiw 🚜

Os ydych chi’n meddwl ymweld yr wythnos hon, dewch i ddweud helo wrthym ni yn neuadd Dde Morgannwg, stondin 092-GH!

Rhannwch eich profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru – da a drwg – yn enwedig os ydych yn byw mewn ardaloedd mwy gwledig 🌳

Methu dod yr wythnos hon ond dal eisiau rhannu eich profiad? Cwblhewch ein harolwg ar-lein isod 👇
https://ow.ly/4nAL50Wsspu
https://ow.ly/9QfW50WsrFk

17/07/2025

Llais yn Sioe Frenhinol Cymru, wythnos nesaf! 🐄

Dewch i sgwrsio gyda ni am iechyd a gofal cymdeithasol yn nigwyddiad amaethyddol mwyaf y flwyddyn

🗺️Neuadd De Morgannwg Stand 092-GH
📅 Dydd Llun 21ain - Dydd Iau 24ain Gorffennaf

Gweler mwy o fanylion yma https://ow.ly/ybL250Wn51O

Mae eich llais yn bwysig, a heddiw gall wneud gwahaniaeth go iawn 🗣️Ar   hwn, rydym yn eich gwahodd i helpu i lunio dyfo...
15/07/2025

Mae eich llais yn bwysig, a heddiw gall wneud gwahaniaeth go iawn 🗣️

Ar hwn, rydym yn eich gwahodd i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, drwy roi eich amser i ateb ein harolwg byr.

Am ragor o wybodaeth am sut gallwch wneud gwahaniaeth, cliciwch ar y ddolen isod 👇
https://ow.ly/1kaN50WpP07

Mae'r Adolygiad Annibynnol i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe yn cadarnhau'r hyn a ddywedodd dros ...
15/07/2025

Mae'r Adolygiad Annibynnol i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe yn cadarnhau'r hyn a ddywedodd dros 500 o bobl wrth Llais yn gynharach eleni.

Cafodd gormod o deuluoedd eu siomi yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf agored i niwed yn eu bywydau.

Rydym yn cefnogi 10 argymhelliad blaenoriaeth yr Adolygiad a byddwn yn parhau i bwyso am ofal diogel, parchus a thosturiol i bob person sy'n rhoi genedigaeth yng Nghymru.

🔗 Darllenwch ein hymateb llawn: https://ow.ly/fMOM50WpLlp

12/07/2025

Helo o Llais! 👋

P’un a ydych wedi ein dilyn ers tro neu newydd ddod o hyd i ni, rydym yma i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

🔸 Llais yw eich llais ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
🔸 Rydym yn gwrando, yn cynrychioli ac yn eiriol dros brofiadau pobl i helpu siapio gwasanaethau gwell.
🔸 Mae gan eich llais y gallu i ddylanwadu ar newid ac rydym yma i sicrhau ei fod yn cael ei glywed.

Rydym yn gyffrous am yr hyn sydd o’n blaenau ac yn edrych ymlaen at gydweithio â chymunedau, gweithwyr proffesiynol a phartneriaid i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae gennym bethau cyffrous ar y gweill, ac rydym wrth ein bodd y byddech chi’n rhan o’r daith. Gadewch sylw, rhannwch eich barn, neu dywedwch helo isod 👇

09/07/2025

Llais yn Sioe Frenhinol Cymru! 🐄

Dewch i sgwrsio gyda ni am iechyd a gofal cymdeithasol yn nigwyddiad amaethyddol mwyaf y flwyddyn

🗺️Neuadd De Morgannwg Stand 092-GH
📅 Dydd Llun 21ain - Dydd Iau 24ain Gorffennaf

Gweler mwy o fanylion yma https://ow.ly/ybL250Wn51O

03/07/2025

Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cynmru ar y rhaglen sgrinio ysgyfaint newydd i’w gyflwyno yn 2027.

Disgwylir i'r rhaglen yma i ddarganfod a thrin cancr yr ysgyfaint yn gynharach, ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael siawns deg i dderbyn y gofal sydd ei angen.

Rydym wedi cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygiad y rhaglen hon, yn rhannu'r hyn glywsom gan bobl ledled Cymru.

I ddarllen mwy:

Llais, the independent statutory body representing the voices of people across health and social care in Wales, has welcomed the Welsh Government’s announcement of a National Lung Screening Programme, due to be rolled out from 2027. The programme, based on a successful pilot project with Cwm Taf M...

🌟 Ymateb i'r ymgynghoriad 🌟Gofynnodd ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sefydliadau am adborth ar ne...
02/07/2025

🌟 Ymateb i'r ymgynghoriad 🌟

Gofynnodd ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sefydliadau am adborth ar newidiadau i'r cod ymarfer yn dilyn penderfyniad gan y Goruchaf Lys a eglurodd ddiffiniadau o ryw cyfreithiol mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn cynnwys goblygiadau pwysig ar gyfer sut mae sefydliadau'n diffinio ac yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â rhyw a hunaniaeth rhywedd.

👉 Gallwch ddarllen ymateb Llais yma: https://www.llaiscymru.org/newyddion-ac-adroddiadau/adroddiadau/ymateb-llais-i-ymgynghoriad-cod-ymarfer-y-comisiwn

Address

Cardiff

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llais Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Practice

Send a message to Llais Cymru:

Share