22/07/2025
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch iawn o gynnal digwyddiad graddio eleni ar gyfer y bobl ifanc gweithgar sydd wedi bod gyda ni ar interniaeth a gefnogir. Mae'r digwyddiad yn dathlu popeth y mae'r graddedigion wedi'i gyflawni trwy gydol y flwyddyn ac roedd eu teuluoedd, eu cydweithwyr a'u rhwydweithiau cymorth i gyd yn bresennol.
Mae DFN Project SEARCH yn rhaglen interniaeth a gefnogir ar gyfer oedolion ifanc ag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn sefydliad Project SEARCH ers 2021 ac mae’n cynnig interniaethau a gefnogir i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ar draws gwahanol adrannau’r Bwrdd Iechyd.
Mae interniaethau a gefnogir wedi'u cynllunio i ddarparu llwybr amgen i'r gweithlu. Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ei chael hi’n anodd trosglwyddo i’r gweithle ar ôl gadael yr ysgol. Mae'r fenter hon yn helpu pobl ifanc i fagu eu hyder a'r potensial i sicrhau cyflogaeth ystyrlon, â thâl.
Mae'r garfan ddiweddaraf o brosiect SEARCH wedi treulio eu hamser ar draws sawl lleoliad yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gan gynnwys yn yr adrannau Profiad y Claf, TG, Porthorion, Switsfwrdd a Cholposgopi.
"Dysgais lawer o sgiliau gweinyddol, fel sut i ddylunio pethau ar y cyfrifiadur, sut i ddefnyddio'r llungopïwr, a gosod ystafelloedd ar gyfer diwrnodau hyfforddi", meddai Aisha* am ei hamser yn gweithio yn y sector Addysg, Diwylliant a Datblygu Sefydliadol.
"Roeddwn i mor dda am amldasgio, fe wnaethon nhw fy ngalw i'n Miss Rabbit! Hoffwn ddiolch i'r tîm cyfan am fod mor groesawgar a chyfeillgar a phawb sy'n ymwneud â Project SEARCH am wneud eleni yn anhygoel."
Bydd Erin*, un o’r graddedigion arall, yn aros gyda'r tîm Colposgopi yn dilyn rhaglen Project SEARCH, ac yn ymgymryd â phrofiad gwaith pellach drwy Twf Swyddi Cymru, prosiect gyda’r llywodraeth sy'n caniatáu iddynt ymgymryd â chymhwyster drwy ddarparwr Hyfforddiant.
Dywedodd: "Mae Project SEARCH wedi dysgu gwytnwch, cyfrinachedd, hyder, a sgiliau gweinyddol a sefydliadol i mi, a gallaf fynd â’r cyfan gyda fi i’r dyfodol. Diolch i'r holl adrannau a wnaeth i mi deimlo fel rhan o'r tîm."
Dywedodd cydlynydd Project SEARCH, Amy Moreno-Grey: "Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i chi fel cydweithwyr yma yn y Bwrdd Iechyd. Nid yw'r rhaglen hon yn gweithio hebddo chi. Rwy'n gwybod bod fy nhîm a minnau mor ddiolchgar am bopeth rydych chi'n ei wneud: yr amser, yr ymrwymiad, a'r amynedd rydych chi'n ei roi i'n pobl ifanc. Rydych chi'n mynd gam ymhellach.
"Mae'r bobl ifanc sy'n dod yma bob dydd i wneud eu gwaith yn gwneud hynny gydag ymrwymiad a balchder. Maen nhw'n weithgar ac yn frwdfrydig a dyma'r rhinweddau rydyn ni eu heisiau ar gyfer gweithluoedd y dyfodol. Nid oes angen i chi edrych ymhellach na'n graddedigion i weld y rhinweddau hyn."
Mynychwyd y seremoni raddio gan Julie Morgan AS, Aelod Etholaeth y Senedd dros Ogledd Caerdydd. Ar y diwrnod, dywedodd: "Mae'r hyn rydw i wedi'i weld yma heddiw yn dangos beth y gellir ei gyflawni cyn belled â'n bod ni'n gwneud yr ymdrechion cywir ac yn cefnogi'r bobl ifanc fel y gallant fynd ymlaen i gael dyfodol anhygoel."
Bydd angen i bobl ifanc a hoffai gymryd rhan mewn lleoliad gwaith yn y Bwrdd Iechyd wneud cais drwy eu hysgol. Os yw’r person ifanc wedi’i gofrestru ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gall wneud cais am y prosiect drwy ei Ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Byddai angen iddynt hysbysu eu harweinydd addysg priodol i fynegi diddordeb gyda’r Awdurdod Addysg i wneud cais am le. Cyngor Caerdydd neu Gyngor Bro Morgannwg fyddai hwn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o fod yn gyflogwr sy’n ystyriol o anabledd. Darllenwch fwy am nodau’r Bwrdd Iechyd i gyflawni gweithlu cynhwysol yn https://orlo.uk/74uaz
* Mae enwau wedi'u newid i ddiogelu anhysbysrwydd.