24/10/2025
We’ve got the latest drone footage showing the incredible progress being made on our new Velindre Cancer Centre 💚
Our new home is scheduled to open in Spring 2027, less than two years away. With each passing day, we’re moving closer to providing even better care and support for people affected by cancer across south Wales.
The nVCC will help more patients receive the right care at the right time and closer to home where possible. It improves access to clinical trials, offers cutting-edge treatment with expanded clinical capacity helping our patients live longer, better-quality lives.
Every aspect of the nVCC has been shaped around the needs of patients, staff, families, and carers. From easier navigation and better parking to therapeutic spaces and dedicated family areas, the new building will enhance comfort, dignity and the overall experience of care. Alongside this, the nVCC is designed to grow and adapt. With standardised, flexible clinical spaces, modern infrastructure, and greener energy use, the nVCC will meet the changing needs of cancer care and deliver long-term value for our patients, staff and the NHS.
Want to find out more? Get in touch with the team at contact.velindre@wales.nhs.uk or drop us a comment below
--
Mae gennym y fideo treigl amser diweddaraf, yn dangos y cynnydd sydd yn cael ei wneud ar ein Canolfan Ganser Felindre newydd 💚
Mae ein cartref newydd i fod i agor yn nhymor y Gwanwyn 2027 - llai na dwy flynedd i ffwrdd. Gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio, rydym yn symud yn agosach at ddarparu gofal a chefnogaeth hyd yn oed gwell i bobl yr effeithir arnynt gan ganser ar draws de Cymru.
Bydd ein CGFn yn helpu mwy o gleifion i dderbyn y gofal cywir ar yr amser cywir, ac yn agosach at adref lle bo’n bosib. Bydd yn gwella mynediad at dreialon clinigol, ac yn cynnig triniaeth arloesol gyda chapasiti clinigol estynedig, sydd yn helpu ein cleifion i fyw bywydau hirach, o ansawdd gwell.
Mae pob agwedd ar y CGFn wedi'i lunio o amgylch anghenion ein cleifion, staff, teuluoedd a gofalwyr. O fedru dod o hyd i’ch ffordd yn well o gwmpas y Ganolfan a mwy o lefydd parcio, i fannau therapiwtig ac ardaloedd pwrpasol i deuluoedd, bydd yr adeilad newydd yn gwella cysur, urddas a'r profiad gofal cyffredinol. Ochr yn ochr â hyn, mae'r CGFn wedi'i gynllunio i dyfu ac addasu. Gyda mannau clinigol safonol a hyblyg, seilwaith modern, a defnydd ynni mwy gwyrdd, bydd y ganolfan yn ateb anghenion newidiol gofal canser, ac yn darparu gwerth hirdymor i'n cleifion, staff a'r GIG.
Eisiau rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio contact.velindre@wales.nhs.uk neu gadewch sylw i ni isod.