28/02/2026
Cafodd Andrew Hale, 45 oed, o Bont-y-pŵl, ddiagnosis o ffibrosis systig (CF) pan gafodd ei eni. Yn ei dridegau cafodd ddiagnosis o ddiabetes sy'n gysylltiedig â CF, a dywedodd bod hwnnw’n "llawer mwy heriol".
Fel tad sengl i ddwy ferch ifanc, roedd yn poeni’n gyson am gael ‘hypo’ - pan fydd lefel y siwgr yn eich gwaed yn mynd yn rhy isel.
Gwahoddwyd Andrew i ymuno â treial CL4P-CF: astudiaeth ymchwil ledled y DU sy'n darparu technoleg gwisgadwy i bobl â diabetes sy'n gysylltiedig â CF, i weld a yw'n helpu i wella’r gallu i reoli siwgr yn y gwaed – ac ansawdd bywyd.
Mae'r dechnoleg hon eisoes yn cael ei defnyddio gan bobl â diabetes math 1, ac mae ymchwilwyr yn credu y gallai wneud gwahaniaeth i bobl â diabetes sy'n gysylltiedig â CF hefyd.
O fewn ychydig wythnosau, sylwodd Andrew ar wahaniaeth enfawr i'w iechyd meddwl yn ogystal â lefel y siwgr yn ei waed: "Mae'r ffordd y mae wedi lleihau fy ngorbryder wedi bod yn beth enfawr, i mi a fy nheulu."
Darllenwch stori Andrew yn y ddolen isod.