11/06/2025
Her 10 Copa Bannau Brycheiniog ar gyfer Ymgyrch Martha's Dancing Heart
55km. Esgyniad 2700m. 16 awr.
Ar 14 Mehefin 2025, bydd tîm o bobl anhygoel yn cychwyn cyn y wawr i gerdded 10 Copa Bannau Brycheiniog ar gyfer Ymgyrch Martha’s Dancing Heart (MDH).
Bydd yr her anodd hon, ar ddiwrnod sych gobeithio, yn rhoi hwb i'r cam nesaf o godi a***n ar gyfer MDH nawr eu bod wedi cyrraedd y garreg filltir o £100,000.
Yn 2015, roedd calon Martha Graham yn curo ddwywaith yn gynt na'r cyflymder arferol pan benderfynodd meddygon ei geni drwy doriad Cesaraidd brys pan oedd yn 35 wythnos. Cafodd ddiagnosis o arhythmia cardiaidd prin a elwir yn Permanent Junctional Reciprocating Tachycardia (PJRT SVT), sy’n achosi iddi gael curiad calon cyflym iawn.
Dechreuwyd Ymgyrch Martha’s Dancing Heart gan fam Martha, Michelle Graham, sydd wedi addo codi £1miliwn yn ystod oes ei theulu i gefnogi’r Gwasanaethau Newyddenedigol a’r Gwasanaethau Cardioleg Pediatrig a ofalodd am Martha ar ôl ei genedigaeth.
Yn gynharach eleni, fel rhan o ymdrechion codi a***n i ddathlu pen-blwydd Martha yn 10 oed, cyrhaeddodd yr ymgyrch swm trawiadol o £100,000, gan eu rhoi'n agosach at y targed o £1miliwn.
Bydd pob ceiniog a godir yn cefnogi gofal cardiaidd hanfodol i fabanod newyddenedigol a phlant, gan helpu babanod, plant a'u teuluoedd yn ystod yr hyn sy’n aml yn gyfnod eithriadol o anodd yn eu bywydau.
Rydym yn dymuno'r gorau i Michelle, Thomas, Jordan, Ffion, Lisa a Gemma, Jodie, Fran, Lynne, Kevin a Mikey, Will, a Lucie gyda'r daith gerdded ddydd Sadwrn.
Gallwch chi gefnogi Michelle a'i ffrindiau https://www.justgiving.com/team/mdhbrecon10peaks
Am ragor o fanylion am Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, neu am unrhyw gyngor neu gymorth codi a***n, cysylltwch â'n Tîm Elusen Iechyd ar fundraising.cav@wales.nhs.uk