Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Iechyd a Gofal Digidol Cymru Dod â datblygu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), a rheoli gwybodaeth, at ei gilydd yn GIG

15/10/2025

Shwmae! 👋
Rydyn ni’n dathlu Diwrnod Shwmae ac yn annog pawb i ddefnyddio ychydig o Gymraeg heddiw, mae dweud “shwmae” yn gam cyntaf perffaith!

11/10/2025

📣 Staff y GIG Cymru: Mae Eich Llais yn Bwysig!

Mae Arolwg Staff GIG Cymru 2025, a gynhelir gan AaGIC, bellach ar agor!

Os ydych chi’n rhan o’r GIG yng Nghymru, dyma eich cyfle i rannu’ch barn yn onest am eich profiadau yn y gwaith. Mae eich adborth yn hanfodol, mae’n helpu i ddangos beth sy’n gweithio’n dda ac i nodi’r meysydd sydd angen eu gwella, gan gael dylanwad uniongyrchol ar les staff, ymgysylltiad ac ofal cleifion ledled GIG Cymru.

Peidiwch ag anghofio, gallwch gael mynediad i’r arolwg drwy wefan AaGIC neu dros y ffôn ar 0808 169 9961.

Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg hefyd, felly gallwch gwblhau’r ffurflen yn y iaith sy’n gyfforddus i chi.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i siapio GIG Cymru gwell.
https://aagic.gig.cymru/ein-gwaith/gig-cymru-arolwg-staff/

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Paul Evans, Pennaeth Sicrhau Ansawdd a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol yn Iechyd a Gofal Digi...
09/10/2025

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Paul Evans, Pennaeth Sicrhau Ansawdd a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), wedi ymuno â'n Bwrdd fel Aelod Cyswllt o'r Bwrdd yn cynrychioli'r Undebau Llafur.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad ym maes gofal iechyd, mae Paul yn dod ag arbenigedd helaeth mewn sicrhau ansawdd, cydymffurfiaeth reoleiddiol, a gweithio mewn partneriaeth. Mae'n angerddol am ymgorffori ansawdd ym mhopeth a wnawn yn IGDC ac mae wedi bod yn eiriolwr ymroddedig dros gydweithio rhwng staff ac arweinyddiaeth ers 1989.

Rydym yn falch iawn o groesawu Paul i’r Bwrdd!

Aelod Cyswllt o'r Bwrdd

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu creadigol a brwdfrydig i'n helpu i godi proffil ein sefydliad a chefnogi cyflawni...
07/10/2025

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu creadigol a brwdfrydig i'n helpu i godi proffil ein sefydliad a chefnogi cyflawniad ein strategaeth gyfathrebu.

Yn y rôl gyffrous hon, byddwch yn:
👉 Cyfrannu at swyddogaeth gyfathrebu ddigidol fodern, sy'n edrych ymlaen at y dyfodol
👉 Cefnogi gweithgareddau cyfathrebu mewnol ac allanol
👉 Helpu i drefnu digwyddiadau a rheoli cynnwys digidol
👉 Darparu cyngor cyfathrebu proffesiynol

Dyddiad cau: 13 Hydref 2025

Ymunwch â ni a helpu i wneud digidol yn rym er well mewn iechyd a gofal ledled Cymru 👉 https://dhcw.nhs.wales/join-our-team/job-vacancies/ #!/job/UK/Cardiff/Cardiff/Digital_Health_Care_Wales/Communication/Communication-v7519012?_ts=1

Mae gwasanaethau colposgopi ledled Cymru wedi cael eu huwchraddio gyda system ddigidol newydd, sy'n golygu bod cofnodion...
06/10/2025

Mae gwasanaethau colposgopi ledled Cymru wedi cael eu huwchraddio gyda system ddigidol newydd, sy'n golygu bod cofnodion cleifion, delweddau clinigol a gwybodaeth hyrwyddo iechyd i gyd ar gael mewn un lle.

Mae clinigwyr yn dweud ei fod yn cyflymu archwiliadau, yn helpu i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf, ac yn rhoi popeth sydd ei angen ar dimau amlddisgyblaethol i gefnogi cleifion.

Darllenwch y stori lawn ar wefan IGDC: https://igdc.gig.cymru/newyddion/newyddion-diweddaraf/system-colposgopi-newydd-yn-dod-a-manteision-i-glinigau/

Croeso i'r tîm Maggi 👋Mae Maggi wedi ymuno â'n tîm Dylunio Canolbwyntio ar y Defnyddiwr fel Uwch Ddylunydd Cynnwys. Fe w...
05/10/2025

Croeso i'r tîm Maggi 👋

Mae Maggi wedi ymuno â'n tîm Dylunio Canolbwyntio ar y Defnyddiwr fel Uwch Ddylunydd Cynnwys. Fe wnaethon ni gymryd yr amser i ddod i'w hadnabod ychydig a'i holi am ei rôl newydd.

"Rwy'n dechrau fy ngyrfa yn IGDC yn gweithio ar ailgynllunio'r system Dewis Fferyllfa. Ochr yn ochr ag eraill yn nhîm UCD, ein nod yw gwneud y Dewis Fferyllfa newydd yn fwy adlewyrchol o anghenion bywyd go iawn defnyddwyr wrth leihau cwestiynau dyblyg a hen ffasiwn.

"Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o dîm o ymarferwyr UCD ac nid ar ben fy hun! Yn fy wythnosau cyntaf rwyf eisoes wedi dysgu cymaint gan fy nhîm ac alla i ddim aros i ddysgu hyd yn oed yn fwy am eu meysydd arbenigedd.

"Er fy mod i wrth fy modd yn mynd am dro da yn y byd natur, rydw i’n fwy o berson dan do o ran fy hobïau. Rwy’n hoffi darllen (fy nod eleni yw gorffen 37 o lyfrau), brodwaith, coginio a chymryd napiau."

Rydyn ni’n gyffrous i gael Maggi ar y tîm ac yn edrych ymlaen at weld y cyfraniadau gwych y bydd hi’n eu gwneud. 💻🤩

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno ag Uned Seiber-Gydnerthedd GIG Cymru yn IGDC. Y Mis Ymwybyddiaeth Seiber-ddiogelwch...
04/10/2025

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno ag Uned Seiber-Gydnerthedd GIG Cymru yn IGDC.

Y Mis Ymwybyddiaeth Seiber-ddiogelwch hwn, beth am gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa ac ymuno â'n tîm!

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
👉Â chefndir profedig mewn Gwybodaeth/Seiberddiogelwch ac Archwilio
👉Â agwedd gadarnhaol a hyblyg
👉Â gallu darparu cyngor arbenigol a sicrwydd i sicrhau bod risgiau diogelwch ar draws GIG Cymru yn cael eu rheoli'n effeithiol

Dyma'ch cyfle i chwarae rhan allweddol wrth gryfhau seiberddiogelwch GIG Cymru ar adeg pan nad yw amddiffyn systemau iechyd digidol erioed wedi bod yn bwysicach.

Dysgwch fwy a gwnewch gais yma: https://igdc.gig.cymru/ymunwch-a-ni/swyddi-ar-gael/ #!/job/UK/Cardiff/Location_be_confirmed_at_interview/Digital_Health_Care_Wales/IT/IT-v7437261?_ts=1

Y Mis Ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch hwn, rydym yn dathlu ein tîm Seiberddiogelwch! 🔐🛡️Nid yn unig y maent yn amddiffyn ...
01/10/2025

Y Mis Ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch hwn, rydym yn dathlu ein tîm Seiberddiogelwch! 🔐🛡️

Nid yn unig y maent yn amddiffyn systemau a gwasanaethau GIG Cymru bob dydd, ond maent hefyd yn paratoi ar gyfer y dyfodol trwy ddatblygu talent ifanc i amddiffyn y genhedlaeth nesaf o wasanaethau digidol.

Yr haf hwn croesawodd y tîm fyfyrwyr am brofiad gwaith wythnos o hyd, gan roi blas iddynt o wybodaeth am fygythiadau, cydymffurfio, ymateb i ddigwyddiadau a mwy. Ers 2018, mae'r rhaglen hon wedi arddangos yr ystod eang o gyfrifoldebau yn ein Canolfan Gweithrediadau Seiberddiogelwch, o bolisi i brofion treiddiad, a metrigau i ddrwgwedd.

👏 Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol ac yn gobeithio y bydd eu profiad gyda IGDC yn helpu i lunio eu camau nesaf.

Mae ein cydweithwyr mewn Moddion Digidol wedi cyflawni rhai ‘cerrig milltir’ trawiadol ym mis Medi, i gyd yn enw dau ach...
27/09/2025

Mae ein cydweithwyr mewn Moddion Digidol wedi cyflawni rhai ‘cerrig milltir’ trawiadol ym mis Medi, i gyd yn enw dau achos gwych. Aeth Pennaeth Rhaglenni Meddyginiaethau Laurence James ati i gerdded 24 milltir o Lwybr Arfordir Gŵyr bryniog i godi mwy na £350 ar gyfer gofal diwedd oes hanfodol Marie Curie, tra bod Rheolwr Rhaglen ePMA Gofal Eilaidd Louise Gregory yn rhedeg 50k drwy gydol y mis er budd Sands, y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaeth Newyddenedigol.

Dysgwch fwy am eu codi a***n gwych – yn ogystal â chyflawniadau diweddar tîm y Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) – yn rhifyn mis Medi o gylchlythyr Moddion Digidol ⬇️

https://myemail.constantcontact.com/Mae-mwy-na-100-o-feddygfeydd-teulu-yng-Nghymru-bellach-yn-defnyddio-Gwasanaeth-Presgripsiynau-Electronig-.html?soid=1111749637823&aid=KjcBbe2L_iA

Llongyfarchiadau i'n Huwch Arweinydd Gwybodeg Glinigol, Dr Geraldine McCaffrey MRPharmS, sydd wedi'i phenodi'n Gyfarwydd...
24/09/2025

Llongyfarchiadau i'n Huwch Arweinydd Gwybodeg Glinigol, Dr Geraldine McCaffrey MRPharmS, sydd wedi'i phenodi'n Gyfarwyddwr newydd Cymru yn y Royal Pharmaceutical Society (RPS).

Mae Geraldine, sydd ar secondiad i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) o'i swydd fel Prif Fferyllydd, Ymchwil a Datblygu yn Betsi Cadwaladr yn cefnogi ein tîm Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR) mewn Rhaglenni Moddion Digidol.

Dywedodd Dr Geraldine McCaffrey: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr dros Gymru yn RPS ac yn gyffrous i ddatblygu ymhellach fy eiriolaeth dros y proffesiwn yng Nghymru. Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Fferylliaeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r aelodau, cyd-aelodau’r bwrdd a thîm RPS i lunio ein strategaeth ar gyfer y dyfodol ac i wireddu ein hymrwymiadau.”

Darllenwch y stori lawn yma ⬇️

https://igdc.gig.cymru/newyddion/newyddion-diweddaraf/penodwyd-yr-arweinydd-clinigol-dr-geraldine-mccaffrey-yn-gyfarwyddwr-cymdeithas-fferyllol-frenhinol-cymru/

Croeso i'r tîm Aisling 👋Yn newydd i'r GIG, mae Aisling yn gyffrous i ddatblygu a chryfhau ei sgiliau wrth adeiladu perth...
23/09/2025

Croeso i'r tîm Aisling 👋

Yn newydd i'r GIG, mae Aisling yn gyffrous i ddatblygu a chryfhau ei sgiliau wrth adeiladu perthnasoedd gwaith gwych yn ein tîm Llywodraethu Corfforaethol fel Cynorthwyydd Gweithredol.

Dysgwch fwy am Aisling⬇️

Address

21 Heol Ddwyreiniol Y Bont-Faen
Cardiff
CF119AD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Iechyd a Gofal Digidol Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Practice

Send a message to Iechyd a Gofal Digidol Cymru:

Share

Share on Facebook Share on Twitter Share on LinkedIn
Share on Pinterest Share on Reddit Share via Email
Share on WhatsApp Share on Instagram Share on Telegram