11/02/2023
Ydy gweithio yn y GIG yn ei gyflwr presennol yn eich pryderu chi? Wrth ystyried beth sy’n cael ei ddweud ar y newyddion neu eich profiadau ar leoliad, byddai hyn yn ddealladwy.
Rydyn ni yn grŵp o fyfyrwyr gofal iechyd sydd eisiau GWNEUD rhywbeth am gyflwr presennol y GIG trwy ddechrau ymgyrch gwleidyddol. Dydyn ni ddim yn sylweddoli ein pŵer a dylanwad fel myfyrwyr gofal iechyd - ni yw dyfodol y GIG!
Ein hamcanion:
✅cynyddu lefelau staff yn y GIG
✅ymgyrchu dros newidiadau strwythurol ar gyfer y GIG yng Nghymru
✅cynyddu ymwybyddiaeth yn y cyhoedd
Sut ydyn ni’n mynd i wneud hyn? Mae gennym gynlluniau i gwrdd â gwleidyddion Cymru, cynnal ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu erthyglau, cynnal cyfweliadau, creu arolygon ac yn y blaen.
Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth, ymunwch ein hymgyrch trwy ymuno’r grŵp whatsapp trwy’r linc isod:
WhatsApp Group Invite