24/12/2025
The family of the man who died following a road traffic collision near Porthmadog on Saturday night have paid tribute to him.
34-year-old Mathew Hardy, from Pwllheli was sadly pronounced dead at the scene.
In a heartfelt tribute his family said:
“As a family our lives have changed forever, following the incomprehensible loss of Mathew in this horrific tragedy.
“There are no words to describe the pain and grief we are feeling. He was an incredible son, partner, brother and friend, and his absence will leave us feeling an emptiness forever.
“Mathew was a gentle, calm and kind character who was so deeply loved. He was thrilled to have recently moved into a new home, with a baby girl on the way.
“We truly appreciate everyone’s kindness and support and politely ask for privacy during this difficult time.”
Officers continue to appeal for witnesses and information to help with their ongoing investigation and are particularly keen to hear from anyone who may have witnessed or has dashcam footage of events leading up to the collision which involved a VW Golf and an Isuzu recovery truck.
Anyone with information is asked to contact North Wales Police via the website or by calling 101, quoting reference number 25001038987.
🖥️ https://orlo.uk/JsNJi
📲 101
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Porthmadog nos Sadwrn wedi talu teyrnged iddo.
Cyhoeddwyd bod Mathew Hardy, 34 oed, o Bwllheli wedi marw yn y fan a’r lle.
Wrth dalu teyrnged fe ddywedodd ei deulu:
“Fel teulu mae ein bywydau ni wedi cael eu chwalu gan y drychineb o golli Mathew mor frawychus o sydyn. Does dim geiriau all ddisgrifio’r boen a’r galar ‘da ni’n ei deimlo. Roedd yn fab, cariad, brawd a ffrind mor boblogaidd i nifer, a bydd yn gadael bwlch ofnadwy o dywyll ar ei ôl.
“Roedd Mathew yn hynod o annwyl a hoffus, ac yng nghanol cyfnod mor gyffrous yn ei fywyd yn symud i dŷ newydd a merch fach ar y ffordd.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu caredigrwydd a geiriau o gysur ar amser mor heriol a thrist. Gofynnwn yn garedig am amser a phreifatrwydd i ddygymod hefo’r galar.”
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion a gwybodaeth er mwyn eu helpu hefo’r ymchwiliad, ac maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd hefo gwybodaeth neu sydd hefo lluniau camera cerbyd yn dangos yr hyn a ddigwyddodd yn arwain at y gwrthdrawiad rhwng car VW Golf a cherbyd casglu Isuzu.
Dylai unrhyw un sydd hefo gwybodaeth gysylltu hefo Heddlu Gogledd Cymru drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan roi’r rhif cyfeirnod 25001038987.
🖥️ https://orlo.uk/JwZlv
📲 101