Prince Charles Hospital - includes Ysbyty Cwm Cynon and Keir Hardie HP

Prince Charles Hospital - includes Ysbyty Cwm Cynon and Keir Hardie HP Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Prince Charles Hospital - includes Ysbyty Cwm Cynon and Keir Hardie HP, Hospital, Merthyr Tydfil.

Last year, the Welsh Blood Service issued… Prince Charles Hospital - 3,676 units of bloodPrincess of Wales Hospital – 1,...
29/04/2026

Last year, the Welsh Blood Service issued…

Prince Charles Hospital - 3,676 units of blood
Princess of Wales Hospital – 1,770 units of blood

…for lifesaving treatment

You, or someone you know, may need blood one day 🩸
❤️Please donate if you able to

Book an appointment today 🔗 https://wbs.wales/CwmTafHB

----------------------------------

Y llynedd, dosbarthodd Gwasanaeth Gwaed Cymru…

Ysbyty'r Tywysog Siarl - 3,676 uned o waed
Ysbyty Tywysoges Cymru - 1,770 uned o waed

…ar gyfer triniaeth sy'n achub bywyd

Efallai y bydd angen gwaed arnoch chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, un diwrnod 🩸
❤️Rhoddwch os gallwch chi

Trefnwch apwyntiad heddiw 🔗 https://wbs.wales/CwmTafHB

It’s World Immunisation Week 2026 and we're reminding people that two important vaccines are being offered this spring. ...
27/04/2026

It’s World Immunisation Week 2026 and we're reminding people that two important vaccines are being offered this spring. We want to make sure everyone who is eligible gets the protection they need.

1️⃣ The COVID-19 spring vaccination is now being offered to:

• Adults aged 75+

• Residents in care homes for older adults

• People aged six months or over who are immunosuppressed. Even if you’ve been vaccinated before, your protection fades over time. That’s why it’s important to stay up to date.

You will receive an invitation letter to attend an appointment for your vaccination.

2️⃣ RSV vaccine

• The RSV vaccine, which has been routinely offered to people when they turn 75, will now also be offered to people aged 80+ and residents in care homes for older adults.

• Pregnant women are also eligible to have the RSV vaccine.

Look out for your invitation letter and take up the offer when it arrives.

Getting vaccinated can reduce your risk of serious illness and hospitalisation from RSV and COVID-19.

More information about immunisation and vaccines is available on our website: https://ctmuhb.nhs.wales/patient-advice/immunisation-and-vaccines/

Mae’n Wythnos Imiwneiddio’r Byd 2026 ac rydym yn atgoffa pobl bod dau frechlyn pwysig yn cael eu cynnig y gwanwyn hwn.

Rydym am sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn cael yr amddiffyniad sydd ei angen arnyn nhw.

1️⃣ Brechiad gwanwyn COVID-19

Mae brechiad y gwanwyn COVID-19 bellach yn cael ei gynnig i:
• Oedolion 75 oed neu hŷn
• Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
• Pobl chwe mis oed neu hŷn sydd ag imiwnedd gwan. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu o'r blaen, mae eich amddiffyniad yn gwanhau dros amser. Dyna pam ei bod hi'n bwysig cael y brechiadau diweddaraf.

Byddwch yn derbyn llythyr gwahoddiad i fynychu apwyntiad ar gyfer eich brechiad.

2️⃣ Brechlyn RSV - feirws syncytiol anadlol

• Bydd y brechlyn RSV, sydd wedi cael ei gynnig yn rheolaidd i bobl pan fyddan nhw’n troi’n 75 oed, bellach hefyd yn cael ei gynnig i bobl 80 oed a hŷn a phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn.
• Mae menywod beichiog hefyd yn gymwys i gael y brechlyn RSV.
Chwiliwch am eich llythyr gwahoddiad a manteisiwch ar y cynnig pan fydd yn cyrraedd.

Gall cael eich brechu leihau eich risg o salwch difrifol a mynd i'r ysbyty oherwydd RSV a COVID-19.

Am fwy o wybodaeth am imiwneiddio a brechlynnau, ewch i’n gwefan: https://bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/imiwneiddio-a-brechlynnau/

27/04/2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Cymraeg yn chwilio am Grefftwr Peirianneg (Trydanol Craidd) i ymuno â'n tîm Ystadau yn Prince Charles Hospital

Mae hon yn swydd ymarferol sy'n cadw systemau ysbyty hanfodol yn rhedeg yn ddiogel i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Beth yw’r buddion i chi?
• Pensiwn y GIG + gwyliau blynyddol hael
• Cyflogaeth ddiogel, hirdymor
• Hyfforddiant a datblygiad parhaus
• Gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd

Mae'r swydd yn cynnwys:
• Cynnal a chadw trydanol, canfod namau, atgyweirio a phrofi
• Sicrhau bod systemau'n ddiogel, yn cydymffurfio ac yn ddibynadwy

Beth rydyn ni'n chwilio amdano:
• Prentisiaeth drydanol wedi'i chwblhau (Lefel 3 neu gyfwerth)
• Profiad cryf o gynnal a chadw trydanol cyffredinol
• Hyder wrth ganfod namau ar systemau masnachol/diwydiannol
• Profiad delfrydol gyda larymau tân, generaduron, BMS neu lifftiau

👉 Oes diddordeb gyda chi?
I wneud cais cliciwch yma: https://dewchictm.cymru/swyddi/ #!/job/UK/Merthyr_Tydfil/Mountain_Ash/Cwm_Taf_Morgannwg_University_Health_Board/Estates_maintenance/Estates_maintenance-v7884023?_ts=370

Ydych chi'n adnabod rhywun a allai fod â diddordeb? Tagiwch nhw isod 👇

27/04/2026

Are you an Electrical Tradesperson looking for steady work, great life benefits, and a role where your skills really matter?

Cwm Taf Morgannwg University Health Board are looking for an Engineering Tradesperson (Core Electrical) to join our Estates team at Prince Charles Hospital

This is a hands on role keeping critical hospital systems running safely for patients, staff and visitors.

❔What’s in it for you?
• NHS pension + generous annual leave
• Secure, long term employment
• Ongoing training and development
• Work that makes a real difference every day

The job involves:
• Electrical maintenance, fault finding, repair and testing
• Ensuring systems are safe, compliant and reliable

✅Interested?
To apply click here: https://joinctm.wales/jobs/ #!/job/UK/Merthyr_Tydfil/Mountain_Ash/Cwm_Taf_Morgannwg_University_Health_Board/Estates_maintenance/Estates_maintenance-v7884023?_ts=180

Closing date 28th April 2026

Know someone who may be interested? Please tag them below

We love hearing feedback like this from our patients. 💙"I would like to thank all the amazing staff in Day Surgery, Prin...
23/04/2026

We love hearing feedback like this from our patients. 💙

"I would like to thank all the amazing staff in Day Surgery, Prince Charles Hospital for the fantastic care I received whilst I had my knee surgery.

I was greeted by a lovely healthcare assistant in the waiting area. Everyone on that shift from the healthcare assistants, nurses and other staff were outstanding!! You couldn’t have had better care!"

Rydym wrth ein bodd yn clywed adborth fel hyn gan ein cleifion. 💙

---------------------------------------

"Hoffwn ddiolch i'r holl staff anhygoel yn Llawfeddygaeth Ddydd, Ysbyty'r Tywysog Siarl am y gofal gwych a gefais tra roeddwn i'n cael llawdriniaeth ar fy nglin.

Cefais fy nghyfarch gan gynorthwyydd gofal iechyd hyfryd yn yr ardal aros. Roedd pawb ar y shifft honno o'r cynorthwywyr gofal iechyd, y nyrsys a'r staff eraill yn rhagorol!! Allech chi ddim fod wedi cael gwell gofal!"

⚠️ Time is running out to order your repeat prescription before the Early May bank holiday (4 May), when many local phar...
22/04/2026

⚠️ Time is running out to order your repeat prescription before the Early May bank holiday (4 May), when many local pharmacies will be closed.

Order your repeat prescription 7 days before you need it - it takes time to process and prepare.

And remember: be kind to your pharmacy team — they’re doing their best for you.

----------------------------------

⚠️ Mae amser yn rhedeg allan i archebu eich presgripsiwn rheolaidd cyn gŵyl banc dechrau Mai (4 Mai), pan fydd llawer o fferyllfeydd lleol ar gau.

Archebwch eich presgripsiwn rheolaidd 7 diwrnod cyn y bydd ei angen arnoch - mae'n cymryd amser i'w brosesu a'i baratoi.

Hefyd, cofiwch: byddwch yn garedig â'ch tîm fferyllfa — maen nhw'n gwneud eu gorau i chi.

Welcome to the world, Cullen🤍Mam, Alice-Kate had these grateful words to share about the team in PCH.“I would like to th...
17/04/2026

Welcome to the world, Cullen🤍

Mam, Alice-Kate had these grateful words to share about the team in PCH.

“I would like to thank the staff in PCH for all the care and support I received to bring our beautiful little boy into the world.

“I had a planned elective C-section; this was due to having a failed induction previously, so I wanted to have a calmer experience; which was exactly that!

“Although there were some unexpected complications in theatre, everything was handled and I was kept calm throughout.

“Some of the midwives that cared for me were Jane, Janet, Bethan and Ruth. A big thanks to you all and everyone else that helped me, especially Emma Fowler for the breastfeeding advice early hours in the morning when I was half asleep! I will be forever grateful.”

-----

Croeso i'r byd, Cullen🤍

Roedd gan Mam Alice-Kate y geiriau diolchgar hyn i'w rhannu am y tîm yn YTS.

“Hoffwn ddiolch i’r staff yn YTS am yr holl ofal a chefnogaeth a gefais i ddod â’n bachgen bach hardd i’r byd.

“Roedd gen i doriad Cesaraidd dewisol wedi’i gynllunio; roedd hyn oherwydd bod y broses prysuro'r geni wedi methu o’r blaen, felly roeddwn i eisiau profiad tawelach; a dyna’n union oedd hi!

“Er bod rhai cymhlethdodau annisgwyl yn y theatr, cafodd popeth ei drin a chefais fy nghadw’n dawel drwyddo draw.

“Rhai o’r bydwragedd a ofalodd amdana i oedd Jane, Janet, Bethan a Ruth. Diolch yn fawr iawn i chi gyd a phawb arall a’m helpodd, yn enwedig Emma Fowler am y cyngor bwydo ar y fron yn oriau cynnar y bore pan oeddwn i’n hanner cysgu! Bydda i’n ddiolchgar am byth.”

14/04/2026

Visitors are now welcome across our hospital sites from 11am until 8pm daily.

Each patient may receive up to two visitors per visit, and visits should last no longer than two hours.

Each ward still has protected meal times, however, some patients may need assistance at meal times from their relatives. Where this isn't the case, visitors on site may be asked to leave the ward whilst the patient eats.

As all wards across all sites have different meal times, any visitors planning to visit patients are advised to check with the ward directly as to when these meal times are and they will be able to advise accordingly.

Recognising how important it is for patients to stay connected with the people who matter most to them, we know that visiting plays an essential part in patients’ wellbeing, comfort and recovery.

The new guidance aims to make visiting more accessible across our sites, whilst also ensuring patients have the opportunity to rest, recover, eat and drink well.

Our Executive Nurse Director, Richard Hughes, explains more in this video👇

----

Mae croeso i ymwelwyr nawr ar draws safleoedd ein hysbytai rhwng 11am ac 8pm bob dydd.

Gall pob claf dderbyn hyd at ddau ymwelydd fesul ymweliad, a ni ddylai ymweliadau bara mwy na dwy awr.

Mae gan bob ward amseroedd prydau bwyd wedi'u diogelu o hyd, fodd bynnag, efallai y bydd angen cymorth gan eu perthnasau ar rai cleifion yn ystod amseroedd prydau bwyd. Lle nad yw hyn yn wir, gellir gofyn i ymwelwyr ar y safle adael y ward tra bod y claf yn bwyta.

Gan fod gan bob ward ar draws pob safle amseroedd prydau bwyd gwahanol, cynghorir unrhyw ymwelwyr sy'n bwriadu ymweld â chleifion i wirio gyda'r ward yn uniongyrchol ynghylch pryd mae'r amseroedd prydau bwyd hyn a byddan nhw’n gallu rhoi cyngor yn unol â hynny.

Gan gydnabod pa mor bwysig yw hi i gleifion aros mewn cysylltiad â'r bobl sydd bwysicaf iddyn nhw, rydym yn gwybod bod ymweld yn chwarae rhan hanfodol yn lles, cysur ac adferiad cleifion.

Nod y canllawiau newydd yw gwneud ymweld yn fwy hygyrch ar draws ein safleoedd, gan sicrhau hefyd bod gan gleifion gyfle i orffwys, gwella, bwyta ac yfed yn dda.

Mae ein Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol, Richard Hughes, yn esbonio mwy yn y fideo hwn👇

Welcome to the world, Palmer. 🤍Mam, Shannon, has shared some lovely words of gratitude to the team at PCH. “Thank you to...
03/04/2026

Welcome to the world, Palmer. 🤍

Mam, Shannon, has shared some lovely words of gratitude to the team at PCH.

“Thank you to all the staff at PCH birth centre for a wonderful experience from start to finish. I cannot fault the care I received from the minute I arrived at triage and I am so grateful to have had a perfect birth experience.

“A special mention to my midwife Abbie - you were kind, caring and compassionate from the very beginning and a credit to your profession. Thank you so much for your support during labour and the thorough aftercare you provided me with. Any mother and baby in your care are in very good hands.

“Another special mention my midwife Lee Lee who provided me with all my antenatal care throughout my pregnancy. I am so grateful to have had you caring for me and would recommend you to anyone! Another absolute credit to the profession.

“I cannot remember the names of the other midwives who cared for us during our experience but thank you to you all too, we were well looked after until the very end.

“Best wishes to you all.”

Croeso i'r byd, Palmer. 🤍

Mae Mam, Shannon, wedi rhannu rhai geiriau hyfryd o ddiolchgarwch i'r tîm yn PCH.

“Diolch i holl staff canolfan geni PCH am brofiad gwych o’r dechrau i’r diwedd. Ni alla i feio'r gofal a gefais o'r funud y cyrhaeddais y dosbarth brysbennu ac rydw i’n mor ddiolchgar fy mod wedi cael profiad geni perffaith.

“Canmol arbennig i’m bydwraig Abbie - roeddech chi’n garedig, yn ofalgar ac yn dosturiol o’r cychwyn cyntaf ac yn glod i’ch proffesiwn. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod esgor a'r gofal ôl-drefnol trylwyr a roddoch i mi. Mae unrhyw fam a babi yn eich gofal mewn dwylo da iawn.

“Canmol arbennig arall fy fydwraig Lee Lee a roddodd fy holl ofal cynenedigol i mi drwy gydol fy beichiogrwydd. Rydw i’n mor ddiolchgar eich bod wedi gofalu amdana i a byddwn yn eich argymell i unrhyw un! Clod llwyr arall i'r proffesiwn.

“Ni alla i gofio enwau’r bydwragedd eraill a ofalodd amdanom ni yn ystod ein profiad ond diolch i chi gyd hefyd, cawsom ofal da hyd y diwedd.

“Dymuniadau gorau i chi gyd.”

Celebrating the kind words from our patients and visitors about the Emergency Department at Prince Charles Hospital. 💙“A...
02/04/2026

Celebrating the kind words from our patients and visitors about the Emergency Department at Prince Charles Hospital. 💙

“After spending a few hours in A&E (at Prince Charles Hospital) on Friday night following my elderly neighbour having a nasty fall, I just wanted to say that the staff were amazing with him and give a massive shout out to Dr Reed.

“Dr Reed was absolutely outstanding; he was everything you’d expect from a doctor and more. The NHS must be so proud to have him! Thank you to him and to the department.”

Have your say: https://ctmuhb.nhs.wales/patient-advice/patient-feedback-civica/

Yn dathlu geiriau caredig ein cleifion ac ymwelwyr am yr Adran Argyfwng yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. 💙

“Ar ôl treulio ychydig oriau yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (yn Ysbyty’r Tywysog Siarl) nos Wener ar ôl i fy nghymydog oedrannus gael cwymp cas, roeddwn i eisiau dweud bod y staff yn anhygoel gydag ef a rhoi clod mawr i Dr Reed.

“Roedd Dr Reed yn hollol rhagorol; roedd yn bopeth y byddech chi'n ei ddisgwyl gan feddyg a mwy. Rhaid bod y GIG mor falch o'i gael! Diolch iddo ef ac i'r adran.”

Dweud eich dweud: https://bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/adborth-cleifion-civica/

From today, we are introducing new visiting guidance across our hospital sites.Visitors are welcome during our core hour...
01/04/2026

From today, we are introducing new visiting guidance across our hospital sites.

Visitors are welcome during our core hours between 11:00 – 20:00 daily. At times there may be restrictions due to Infection prevention measures.

Some speciality areas will continue to have dedicated visiting arrangements that best support the needs of patients and families. These areas include Maternity, Neonatal, Paediatrics, Critical Care Units and Palliative Care Units.

Recognising how important it is for patients to stay connected with the people who matter most to them, visiting plays an essential part in patients’ wellbeing, comfort and recovery.

The new guidance aims to make visiting more accessible across our sites, whilst also ensuring patients can rest, recover, eat and drink well.

To find out more, please visit https://ctmuhb.nhs.wales/news/latest-news/new-visiting-guidance-introduced-across-ctmuhb-hospital-sites/

----

O heddiw, rydym yn cyflwyno canllawiau newydd am ymweliadau ar draws ein safloedd ysbytai.

Mae croeso i ymwelwyr yn ystod ein horiau craidd rhwng 11:00 – 20:00 bob dydd. Ar adegau gall fod cyfyngiadau oherwydd mesurau atal heintiau.

Bydd rhai ardaloedd arbenigedd yn parhau i gael trefniadau ymweld pwrpasol sy'n cefnogi anghenion cleifion a theuluoedd orau. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys Mamolaeth, Newyddenedigol, Paediatreg, Unedau Gofal Critigol ac Unedau Gofal Lliniarol.

Gan gydnabod pa mor bwysig yw hi i gleifion aros mewn cysylltiad â'r bobl sydd bwysicaf iddyn nhw, mae ymweld yn chwarae rhan hanfodol yn lles, cysur ac adferiad cleifion.

Nod y canllawiau newydd yw gwneud ymweld yn fwy hygyrch ar draws ein safleoedd, gan sicrhau hefyd y gall cleifion orffwys, gwella, bwyta ac yfed yn dda.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/cyngor-newydd-ar-ymweld-wediu-cyflwyno-ar-draws-safleoedd-ysbytai-bipctm/

❗Health Visitors Industrial ActionYou may be aware that some Health Visitors in the CTM Health Board area have been taki...
23/03/2026

❗Health Visitors Industrial Action

You may be aware that some Health Visitors in the CTM Health Board area have been taking industrial action, and will continue to do so until 15th May 2026.

Our priority during this period is the safety and accessibility of services provided to you and your family and we are working hard to minimise the impact you experience.

However, to keep services safe and ensure we can support families with more complex and urgent needs, we are having to restrict some activities, including routine appointments,

Because normal methods of contact may be disrupted, we have established a single point of access which we would kindly ask you to use as the main way to contact the Health Visiting service. You will find the details below:

☎️01443 803930
📩CTM.SPOAHealthVisiting@wales.nhs.uk

We aim to respond to all enquiries within two hours.

There is also a website which you may find useful: https://ctmuhb.nhs.wales/services/childrens-health-visiting/

Remember, if your baby or child is unwell and you are concerned, you should contact your GP or 111 as you normally would.

We are very sorry for the disruption and any concern caused by this issue. Please be assured that we will continue working hard to minimise the extent to which are affected.
------
❗Gweithredu Diwydiannol Ymwelwyr Iechyd

Efallai eich bod yn ymwybodol bod rhai Ymwelwyr Iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd CTM wedi bod yn cymryd camau gweithredu diwydiannol, a byddan nhw’n parhau i wneud hynny dros yr 8 wythnos nesaf.

Ein blaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn yw diogelwch a hygyrchedd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i chi a'ch teulu ac rydym yn gweithio'n galed i leihau'r effaith rydych chi’n ei phrofi.

Fodd bynnag, er mwyn cadw gwasanaethau'n ddiogel a sicrhau y gallwn gefnogi teuluoedd ag anghenion mwy cymhleth a brys, mae'n rhaid i ni gyfyngu ar rai gweithgareddau, gan gynnwys apwyntiadau arferol sydd eisoes wedi'u canslo.

Lle nad yw'r bwrdd iechyd wedi cysylltu â chi i ganslo apwyntiadau, nodwch fod disgwyl i'r rhain ddigwydd fel yr arfer. Os ydych yn ansicr a yw sesiynau galw heibio grŵp wedi'u canslo, cysylltwch â ni (gweler isod).
Gan y gallai dulliau cysylltu arferol gael eu tarfu, rydym wedi sefydlu un pwynt mynediad y byddem yn gofyn yn garedig i chi ei ddefnyddio fel y brif ffordd i gysylltu â'r gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd. Fe welwch y manylion isod:

☎️01443 803930
📩CTM.SPOAHealthVisiting@wales.nhs.uk

Ein nod yw ymateb i bob ymholiad o fewn dwy awr.

Mae gwefan hefyd a allai fod yn ddefnyddiol i chi: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/ymweliadau-iechyd-plant/

Cofiwch, os yw'ch babi neu'ch plentyn yn sâl ac yn bryderus, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu 111 fel y byddech fel arfer.

Mae'n ddrwg iawn gennym am yr aflonyddwch ac unrhyw bryder a achosir gan y mater hwn. Byddwch yn dawel eich meddwl y byddwn yn parhau i weithio'n galed i leihau’r effaith i chi.

Address

Merthyr Tydfil
CF479

Telephone

+441685721721

Services

Specialties

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Prince Charles Hospital - includes Ysbyty Cwm Cynon and Keir Hardie HP posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share

Category