01/06/2025
Da iawn Sir Benfro!!
*NEWYDDION GWYCH O'R EISTEDDFOD DYDD SADWRN - DATGANIAD O'R LLWYFAN*
Mae tlws y Rhanbarth Arbennig yn cael ei roi i’r rhanbarth sydd wedi gwneud ymdrech fawr yn yr Eisteddfod eleni.
Ac yn 2025, mae’r tlws yn mynd i ranbarth sydd wedi mynd y filltir ychwanegol, yn enwedig yn y cystadlaethau Cyfansoddi a Chreu.
Jest gwrandewch ar y stats yma:
• Mae 30% o holl geisiadau Gwaith Cartref cenedlaethol yn dod o’r rhanbarth yma.
• Nifer uchaf yng Nghymru o gystadlaethau Gwaith Cartref Dysgwyr Cynradd
• 33% o geisiadau ar gyfer Eisteddfod T yn dod o’r rhanbarth hwn, gan gynnwys ceisiadau i pob un o’r 12 cystadleuaeth
• Nifer uchel iawn o geisiadau Celf, Dylunio a Thechnoleg.
Ar ben hynny, mae cofrestriadau cystadlaethau llwyfan yn uchel iawn eleni eto, yn enwedig o ystyried mai ond 2,800 o aelodau sydd yn y rhanbarth, a fod llai na treian o’r ysgolion yn ysgolion Cyfrwng Cymraeg
• 63 o Lefarwyr Ail Iaith mewn un cylch.
• Cynnydd yn y cofrestriadau cystadlaethau Dawns, Offerynnol a Cerdd Dant
Yn goron ar y cyfan mae’r sir yn brwydro am y trydydd safle yn y tabl medalau am yr ail flwyddyn o’r bron, a hynny ar ôl blynyddoedd o fod ar yr “ail dudalen” o’r tabl medalau cyn Covid.
Ac mae’r Swyddog Cymunedol wedi treulio drwy’r wythnos hon yn amserlennu pob cystadleuaeth, yn sicrhau fod neb yn cael clash, ac yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr fod pob cystadleuaeth yn dechrau ac yn gorffen ar amser. Dipyn o dasg!
Felly braf iawn yw cyhoeddi mai enillwyr Tlws y Rhanbarth Arbennig Eisteddfod Dur a Mor 2025 yw Sir Benfro.